Home Offshore Energy EDF Renewables UK partners with DP Energy

EDF Renewables UK partners with DP Energy


EDF Renewables, one of the UK’s leading renewable energy companies, is announcing a joint venture partnership with international renewable project developer DP Energy, to generate up to 1GW of low carbon green energy in the Celtic Sea. The project is likely to span English and Welsh waters.

The floating offshore wind project called ‘Gwynt Glas’ will provide power for approximately 927,400 homes.* This will contribute a significant part of the Crown Estate’s ambitions for 4GW of capacity in the Celtic Sea as announced in October 2021.

Work including identification of a refined area of search and detailed constraint studies for the proposed location of the project are already underway. An area of interest encompassing some 1,500km2 has been identified, approximately 70km from the shore, with initial remote aerial surveys for marine mammal and birds taking place since Spring 2021. The project team will be consulting with key stakeholders and interested parties in the coming weeks to refine the proposed site location.

EDF Renewables UK Head of Offshore Wind Scott Sutherland said “This is a great start to 2022 for us and we are very pleased to announce this partnership with DP Energy. We firmly believe Gwynt Glas will be a catalyst for further supply chain growth across the UK which is something we as a company are very supportive of.”

“We will use our experience in offshore wind to help bring opportunities for local, regional and national companies on this project and on others, such our Blyth floating project and the two we are bidding for in the ScotWind process.”

“Floating offshore wind is an exciting new technology and will bring much needed inward investment which can regenerate coastal economies and communities.”

Simon De Pietro, CEO of DP Energy said “DP Energy’s 30-year approach to renewable project development puts the environment and local community front and centre. In our partners, we look for organisations that are as committed as we are to combating climate change.”

“With EDF Renewables UK we have found a strong ally to develop Gwynt Glas, who place strong emphasis on capturing the regional supply chain and local community opportunity, alongside protecting our environment.”

“Each member of the DP Energy UK team based in Pembroke Dock was born and raised in Wales and are passionate about supporting the growth of a new energy sector that can sustain skilled, well-paid jobs for future generations in coastal regions, in Wales and in the South West of England.”

* Load factors based on the five year rolling averages on unchanged configuration basis using Table 6.5 of ‘Digest of UK Energy Statistics’ – latest figures as per July 2020 release. Based upon the average domestic electricity consumption per home (temperature corrected) per the Energy Consumption in the UK (published July 2020, Table C9 of ECUK: Consumption data tables).

EDF Renewables UK yn creu partneriaeth gyda DP Energy i ddarparu hyd at 1GW ym mhrosiect gwynt alltraeth arnofiol ‘Gwynt Glas’ yn y Môr Celtaidd

Mae EDF Renewables, un o gwmnïau ynni adnewyddadwy mwyaf blaenllaw’r DU, yn cyhoeddi partneriaeth menter ar y cyd â’r datblygwr prosiectau adnewyddadwy rhyngwladol DP Energy, i gynhyrchu hyd at 1GW o ynni gwyrdd carbon isel yn y Môr Celtaidd. Mae’r prosiect yn debygol o rychwantu dyfroedd Cymru a Lloegr.

Bydd y prosiect gwynt alltraeth arnofiol o’r enw ‘Gwynt Glas’ yn darparu pŵer ar gyfer tua 927,400 o gartrefi.* Bydd hyn yn cyfrannu rhan sylweddol o uchelgais Ystâd y Goron ar gyfer capasiti o 4GW yn y Môr Celtaidd fel y cyhoeddwyd ym mis Hydref 2021.

Mae’r gwaith yn cynnwys nodi ardal chwilio fanwl ac astudiaethau cyfyngu manwl ar gyfer lleoliad arfaethedig y prosiect eisoes wedi dechrau. Mae ardal o ddiddordeb sy’n cwmpasu rhyw 1,500km2 wedi’i nodi, tua 70km o’r lan, gydag arolygon awyr cychwynnol o bell ar gyfer mamaliaid ac adar morol yn cael eu cynnal ers gwanwyn 2021. Bydd tîm y prosiect yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a phartïon â diddordeb yn yr wythnosau nesaf i fireinio lleoliad y safle arfaethedig.

Dywedodd Scott Sutherland, Pennaeth Ynni Gwynt Alltraeth EDF Renewables UK “Mae hwn yn gychwyn gwych i 2022 i ni ac rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi’r bartneriaeth hon gyda DP Energy. Rydym ni’n credu’n gryf y bydd Gwynt Glas yn gatalydd ar gyfer twf pellach yn y gadwyn gyflenwi ledled y DU sy’n rhywbeth rydym ni fel cwmni’n gefnogol iawn iddo.

“Byddwn yn defnyddio ein profiad ym maes ynni gwynt alltraeth i helpu i ddod â chyfleoedd i gwmnïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar y prosiect hwn ac ar rai eraill, fel ein prosiect Blyth 2 a’r ddau rydym ni’n gwneud cais amdanynt ym mhroses ScotWind.

“Mae gwynt alltraeth arnofiol yn dechnoleg newydd gyffrous a bydd yn dod â mewnfuddsoddiad mawr ei angen a all adfywio economïau a chymunedau arfordirol.”

Dywedodd Simon De Pietro, Prif Swyddog Gweithredol DP Energy “Mae dull 30 mlynedd DP Energy o ddatblygu prosiectau adnewyddadwy yn rhoi’r amgylchedd a’r gymuned leol yn ganolog. Yn ein partneriaid, rydym ni’n chwilio am sefydliadau sydd yr un mor ymroddedig â ni i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

“Gydag EDF Renewables UK rydym ni wedi dod o hyd i gynghreiriad cryf i ddatblygu Gwynt Glas, sy’n rhoi pwyslais cryf ar ddal y gadwyn gyflenwi ranbarthol a chyfleoedd cymunedol lleol, ochr yn ochr â diogelu ein hamgylchedd.

“Cafodd pob aelod o dîm DP Energy sydd wedi’i leoli yn Noc Penfro ei eni a’i fagu yng Nghymru ac rydym ni’n frwd dros gefnogi twf sector ynni newydd a all gynnal swyddi medrus sy’n talu’n dda mewn ardaloedd arfordirol, yng Nghymru ac yn Ne-orllewin Lloegr.

Previous articleBlue Water expands in the Middle East
Next articleLuxcara acquires Dutch offshore wind farm stake from Van Oord